{"product_id":"9781837723454","title":"Catrin o Ferain : Mam Cymru","description":"\u003cp\u003e Author(s): Williams-Ellis, Helen \u003cbr\u003e Binding: Hardback, \u003cbr\u003e Date of Publication: 15\/05\/2026,\u003cbr\u003e Pagination: 272 pages, Not illustrated,\u003cbr\u003e ISBN13\\EAN\\SKU: 9781837723454,\u003cbr\u003e Description: \u003c\/p\u003e\u003cp\u003eGaned Catrin o Ferain yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1535, mewn cyfnod hanesyddol gythryblus. Bu’n rhaid iddi droedio’n gyfrwys ac yn ofalus gydol ei hoes. Yn aeres gyfoethog o’i chrud i’w bedd, priododd yn dda, a’i blaenoriaeth oedd gwarchod ei hetifeddiaeth. Gyda’i hail wr Rhisiart Clwch, teithiodd Catrin yn helaeth ar draws cyfandir Ewrop, ac fe baentiwyd y darlun enwog ohoni pan oedd yn Antwerp. Bu’n weddw deirgwaith, ond tristwch mwyaf ei bywyd oedd y cyhuddiad yn erbyn ei mab hynaf o fod yn fradwr, a’i farwolaeth erchyll ar grocbren Tyburn ym 1587. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd Catrin hithau wedi’i chladdu. Yn ystod ei hoes, defnyddiodd Catrin y gyfundrefn farddol i hyrwyddo ei henw da, a dadlennol a difyr yw’r dyfyniadau sy’n britho’r cofiant. Rhyfeddol hefyd yw’r dystiolaeth sy’n dangos y cyfeillgarwch dwfn rhyngddi a’r bardd Wiliam Cynwal, ac mae’r gyfrol arloesol hon yn cyplysu tystiolaeth weledol y cyfnod modern cynnar gyda barddoniaeth beirdd yr uchelwyr.\u003c\/p\u003e","brand":"Griffin Books","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57546654974325,"sku":"9781837723454","price":25.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"url":"https:\/\/www.griffinbooksonline.co.uk\/products\/9781837723454","provider":"Griffin Books","version":"1.0","type":"link"}